English below
Cytundeb Benthyciwr a Hawlildiad Petha (Benthyg)
1. Rhaid i Aelodau fod yn 18 oed neu drosodd i fenthyg eitemau oddi wrth Petha (Benthyg).
2. Cyn benthyg eitemau, rhaid i bob Aelod greu cyfrif ar-lein sydd yn cynnwys ebost.
3. Mae Petha yn ddarparu canllaw defnydd gydag eitemau. Fodd bynnag, trwy gymryd meddiant unrhyw eitem, mae’r Aelod yn ardystio ei fod ef neu ei bod hi’n gallu defnyddio’r eitem honno mewn dull diogel a phriodol.
4. Dim ond yr Aelod sy’n cael ei ganiatáu i ddefnyddio eitemau sy’n cael eu benthyg o Petha (Benthyg). Rhaid i’r Aelod beidio â chaniatáu i eitemau sy’n cael eu tsecio allan iddo ef neu iddi hi gael eu defnyddio gan neb arall oni bai bod caniatâd datganedig oddi wrth Petha (Benthyg).
5. Mae’n bosibl y codir tâl ar Aelodau am fenthyg eitem. Mae’r dull talu yn agored i drafodaeth.
6. Does dim tâl am aelodaeth unigol.
7. Rhaid i bob eitem sy’n cael ei benthyg gael ei dychwelyd i Petha (Benthyg) erbyn diwedd busnes ar eu dyddiad dychwelyd.
8. Caiff Aelodau adnewyddu pob eitem os (a) mae’r Aelod yn cysylltu â Petha (Benthyg) erbyn canol dydd ar y diwrnod cyn y dyddiad dychwelyd, a (b) nad oes unrhyw Aelod arall wedi rhoi’r eitem ar gadw. Mae Petha (Benthyg) yn cadw’r hawl i wrthod neu gyfyngu adnewyddiadau.
Bydd Petha Benthyg dim ond yn atebol i chi am golled neu ddifrod a achosir gan ein hesgeulustod ni mewn methu â dweud wrthych chi am ddiffyg hysbys. Ni fyddwn yn atebol am ddiffygion nad ydyn ni’n ymwybodol ohonyn nhw. Heblaw am hyn, mae Petha (Benthyg) yn eithrio pob atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni neu dor contract. Am nad busnes ydyn ni, mae’r risg i chi yn uwch na pe baech yn talu am hurio rhywbeth neu’n ei brynu.
9. Mae’r Aelod yn cytuno nad yw Petha (Benthyg) yn gyfrifol am unrhyw ddiffygion gweithgynhyrchu mewn ansawdd crefftwaith neu ddeunyddiau sy’n gynhenid mewn unrhyw eitemau sy’n cael eu benthyg. Bob tro y cymerwch eitem allan mae’n rhaid i chi ei gwirio’n weledol cyn i chi ei chymryd, a gwneud gwiriadau eraill am unrhyw ddiffygion y byddwch o bosib yn gallu eu gweld cyn ei defnyddio.
Mae’r Aelod yn cytuno os bydd unrhyw eitem sydd wedi ei benthyg yn mynd yn anniogel neu mewn cyflwr gwael, bod rhaid i ef neu hi roi’r gorau ar unwaith i ddefnyddio’r eitem a hysbysu Petha (Benthyg).
10. Os ydych chi’n benthyg offer trydanol, mae’n rhaid i chi wirio’r gwifrau gweladwy a’r plwg am unrhyw ddifrod cyn ei defnyddio. Os ydych chi’n defnyddio’r eitem yn yr awyr agored, yn ei symud o gwmpas, neu’n ei defnyddio dan amgylchiadau pan allai ddod i gysylltiad â dŵr, unrhyw beth miniog neu wefriad trydanol arall, mae’n rhaid i chi ddefnyddio torrwr cylched.
11. Rhaid i bob eitem gael ei dychwelyd yn yr un cyflwr ag y cafodd ei rhoi allan, ac eithrio traul arferol. Rhaid i bob eitem gael ei dychwelyd yn lân. Bydd Petha (Benthyg) a’r Aelod yn dod i gytundeb unigol mewn perthynas ag unrhyw golled eitem neu ddifrod iddi ac mae’r Aelod yn cytuno ymhellach i dderbyn asesiad Petha (Benthyg) o gyflwr eitemau ac wrth eu dychwelyd yn fodlon trafod digolledu’n deg am ddifrod, bryntni, drwgweithredu, a/neu golled eitemau.
Mae Petha (Benthyg) yn cadw’r hawl i wrthod benthyciad unrhyw eitem yn ôl ei ddisgresiwn.
12. Os nad Petha (Benthyg) yw perchennog yr eitem ac mae ond yn hwyluso cysylltiad rhyngochnchi a’r Perchennog, nid yw Petha (Benthyg) yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gyflwr unrhyw eitem neu golled neu ddifrod sy’n codi o ganlyniad i’ch defnydd ohoni.
13. Rhaid i Aelodau beidio â benthyg yr eitemau i wneud gwaith proffesiynol y byddwch yn codi ffi ar drydydd parti amdano. Ni fyddwch wedi eich yswirio am y gweithgarwch yma, a byddwch mewn perygl y caiff eich aelodaeth ei therfynu.
14. Mae Aelodau deall eich bod wedi eich yswirio i ddefnyddio’r eitem rydych wedi ei benthyg – ond nad yw neb arall wedi eu hyswirio i ddefnyddio’r eitem honno. Os bydd unrhyw un arall yn defnyddio’r eitem rydych wedi ei benthyg, nid yw’r person hwnnw wedi ei yswirio am unrhyw ddifrod i’w person neu eu heiddo. Er enghraifft, os ydych yn gwesteio digwyddiad gan ddefnyddio eitem rydych wedi ei benthyg o Petha (Benthyg), bydd arnoch chi angen eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus eich hun.
15. Os ydych yn benthyg eitem a chyda’n cytundeb ni yn ei throsglwyddo i Fenthyciwr arall cyn iddi gael ei dychwelyd i ni a’i bwcio i mewn, rydych yn aros yn atebol i ni am ddychwelyd ac am gyflwr y gwrthrych nes iddo gael ei dychwelyd i ni. Os byddwch yn casglu eitem oddi wrth Fenthyciwr arall gyda’n cytundeb ni bydd hynny hefyd ar delerau’r Cytundeb hwn.
16. Rydych yn cadarnhau bod yr wybodaeth rydych wedi ei rhoi wrth gofrestru i’r platfform benthyg ar-lein yn gyfredol, yn wir, ac yn gywir. Rydych yn deall y bydd yr wybodaeth yma o bosibl yn cael ei dilysu.
17. Rydych yn datgan ymhellach eich bod wedi darllen a deall yn llawn rheolau a rheoliadau Petha (Benthyg), a’ch bod yn deall bod methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o’r rheolau hyn yn gallu arwain at ddirymu eich breintiau benthyg a/neu gamau cyfreithiol yn eich erbyn. Rydych chi wedi darllen y ffurflen Hawlildio ac Indemnio isod, gan ildio pob hawliad yn erbyn Petha (Benthyg).
Hawlildiad Atebolrwydd
Mae’r eitemau yn ein casgliad at ddefnydd aelodau Petha (Benthyg) . Allan o barch i ddefnyddwyr y dyfodol, a fyddech chi cystal â chymryd gofal o’r eitemau rydych yn eu benthyg a rhoi gwybod i Petha (Benthyg) ar unwaith am unrhyw ddifrod. Er bod benthycwyr yn gyfrifol am ddifrod maen nhw wedi ei achosi, rydyn ni’n addo peidio â bod yn ddig.
Eich Datganiadau – DARLLENWCH HYN YN OFALUS BOB TRO Y BENTHYCIWCH RYWBETH
● Mae gennyf y gallu a’r profiad i ddefnyddio’r eitemau rwy’n eu benthyg, a byddaf bob amser yn defnyddio’r eitemau rwy’n eu benthyg mewn modd priodol. Rwy’n ymwybodol nad yw Petha (Benthyg), ei bartneriaid, cyfarwyddwyr, swyddogion, aelodau, a chyflogeion yn honni unrhyw arbenigedd nac yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth mewn perthynas ag addasrwydd unrhyw eitem at unrhyw ddefnydd penodol.
● Rwyf drwy hyn dros fy hunan, ar ran f’olynwyr ac aseinïaid, yn hawlildio unrhyw a phob hawliad yn erbyn Petha (Benthyg), ei swyddogion, asiantau, a chyflogeion am unrhyw anaf neu anafiadau o unrhyw natur y byddaf o bosibl yn eu dioddef neu eu hennyn wrth ddefnyddio’r eitem rwy’n ei benthyg oddi wrth Petha (Benthyg) ac eithrio’r rhai a achosir gan ddiffyg a oedd yn hysbys i Petha (Benthyg) a hwythau heb roi gwybod i mi amdano.
● Rwy’n cytuno i ryddhau ac indemnio a dal yn ddiniwed Petha (Benthyg), ei swyddogion, asiantau, a chyflogeion rhag unrhyw a phob atebolrwydd, colled, hawliad, a galw, gweithrediadau, neu achosion gweithredu am farwolaeth neu anaf i unrhyw bersonau ac am unrhyw ddifrod i eiddo sy’n cael ei ddioddef neu ei ennyn gan unrhyw berson sy’n codi neu a allai godi neu gael ei achosi mewn unrhyw ffordd gan ddefnydd eitemau rwy’n eu benthyg o Petha (Benthyg).
● Rwyf wedi darllen ac wedi deall yn llawn rheolau a rheoliadau Petha (Benthyg) ac rwy’n deall bod methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o’r rheolau hyn yn gallu arwain at ddirymu fy mreiniau benthyg a/neu camau cyfreithiol yn f’erbyn.
++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++
Petha [Benthyg] Borrower’s Agreement & Items Use Policy
- Members must be age 18 or over to borrow items from Petha [Benthyg].
- Prior to borrowing items, all Members must create an online account inclusive of email address.
- Petha [Benthyg] provides manufacturer handbooks with items. By taking possession of any item, the Member is certifying that he or she is capable of using that item in a safe and proper manner.
- Only the Member is authorised to use items borrowed from Petha [Benthyg]. The Member shall not permit the use of items checked out to him or her by any other person unless by the express permission of Petha [Benthyg].
- Members may be charged for borrowing an item. Method of payment is negotiable.
- There is no charge for individual membership.
- All items borrowed are to be returned to Petha [Benthyg] by close of business on their return date.
- Members may renew each item if (a) the Member contacts Petha [Benthyg] by noon on the day before the return date, and (b) no other Member has reserved the item. Petha [Benthyg] reserves the right to refuse or limit renewals. Petha [Benthyg] will only be liable to you for loss or damage caused by our negligence in failing to tell you about a known fault. We will not be liable for faults of which we are not aware of. Other than this Petha [Benthyg] exclude all liability for death or personal injury caused by our negligence or breach of contract. Because we are not a business, the risk to you is greater than if you were paying to hire something or buy it.
- The Member agrees that Petha [Benthyg] is not responsible for any manufacturing defects in quality of workmanship or materials inherent in any borrowed items. Each time you take an item out you must check it visually before you take it, and make other checks for any faults that you may be able to identify before using it. The Member agrees that if any borrowed item becomes unsafe or in a state of disrepair, he or she must immediately discontinue use of the item and notify Petha [Benthyg].
- If you are borrowing electrical equipment, you must check the visible wires and plug for any damage before use. If you are using the item outside, moving it about, or using it in circumstances where it may encounter water, anything sharp or other electrical wiring, you must use a circuit breaker.
- All items are to be returned in the same condition as they were issued, barring normal wear and tear. All items must be returned clean. Petha [Benthyg] and the Member will come to an individual agreement in respect of any loss of or damage to any item and the Member further agrees to accept the Petha’s [Benthyg] assessment of condition of items and on return engage in discussion of fair restitution for damage, dirtiness, delinquency, and/or loss of items. Petha [Benthyg] reserves the right to refuse the loan of any item at its discretion.
- If Petha [Benthyg] is not the owner of the item and only facilitates contact between you and the Owner, Petha [Benthyg] accepts no liability for the condition of any item or any loss or damage resulting from your use of it.
- Members will not borrow the items to do professional work where you are charging a fee to a third party. You will not be insured for this activity, and risk your membership being terminated.
- Members understand that you are insured to use the item that you have borrowed – but that nobody else is insured to use that item. If anyone else uses the item you have borrowed, that person is not insured for any damage to their person or their property. For example, if you are hosting an event using an item borrowed from Petha [Benthyg], you will need your own public liability insurance.
- If you borrow an item and with our agreement pass it on to another Borrower before it is returned to us and booked in, you remain liable to us for the return and condition of the object until it is returned to us. If you collect an item from another Borrower with our agreement that will also be on the terms of this Agreement.
- You affirm that the information that you have provided when signing up to the online borrowing platform is current, true, and correct. You understand that this information may be subject to verification.
- You further state that you have read and fully understand the rules and regulations of Petha [Benthyg], and you understand that failure to comply with any of these rules may result in revocation of your borrowing privileges and/or legal action against you. You have read the Waiver and Indemnification form below, relinquishing all claims against Petha [Benthyg].
Liability Waiver
The items in our library are for the use of Petha [Benthyg] members. Out of respect for future users, please take care of the items you borrow and report any damage to Petha [Benthyg] immediately. Though borrowers are responsible for damage that they have caused, we promise not to be angry.
Your Statements – READ THIS CAREFULLY EVERY TIME YOU BORROW ANYTHING
● I am capable and experienced in using the items I am borrowing, and that I will use the items I am borrowing in a proper manner. I am aware that Petha [Benthyg], its partners, directors, officers, members, and employees claim no expertise and make no representation concerning the fitness of any item for any particular use.
● I, do hereby for myself, on behalf of my successors and assigns, waive any and all claims against Petha [Benthyg], its officers, agents, and employees for any injury or injuries of any nature that I may suffer or incur in the use of the item that I am borrowing from Petha [Benthyg] except those caused by a defect known to Petha [Benthyg] and not made known to me.
● I agree to release and indemnify and hold harmless Petha [Benthyg], its officers, agents, and employees from any and all liability, loss, claims, and demands, actions, or causes of action for the death or injury to any persons and for any property damage suffered or incurred by any person which arises or may arise or be occasioned in any way from the use of items I am borrowing from Petha [Benthyg].
● I have read and fully understand the rules and regulations of Petha [Benthyg] and I understand that failure to comply with any of these rules may result in revocation of my borrowing privileges and/or legal action against me.